Luke 5:12 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ darvu, val ydd oedd ef mewn ryw ddinas, nycha wr yn llawn o’r gohanglwyf, a’ phan welodd ef yr Iesu, e gwympawdd ar ei wynep, ac a atolygawdd yddo, gan ddywedyt, Arglwydd, a’s wyllysy, gelly vy-glanhau.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A bu, pan yr oedd Efe yn un o’r dinasoedd, ac wele, gŵr llawn o wahan-glwyf; ac wedi gweled yr Iesu, wedi syrthio ar ei wyneb, ymbiliodd ag Ef, gan ddywedyd, Arglwydd, os ewyllysi, abl wyt i’m glanhau i.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A phan oedd ef yn un o’r dinasoedd, dyma ŵr yn llawn gwahanglwyf; ac wrth weled yr Iesu fe syrthiodd ar ei wyneb, a deisyf arno, gan ddywedyd: “Arglwydd, os mynni, ti elli fy nglanhau.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A bu, fel yr oedd efe mewn rhyw ddinas, wele ŵr yn llawn o'r gwahanglwyf: a phan welodd efe yr Iesu, efe a syrthiodd ar ei wyneb, ac a ymbiliodd ag ef, gan ddywedyd, O Arglwydd, os ewyllysi, ti a elli fy nglanhau.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yn un o'r trefi dyma Iesu'n cyfarfod dyn oedd â gwahanglwyf dros ei gorff i gyd. Pan welodd hwnnw Iesu, syrthiodd ar ei wyneb ar lawr a chrefu am gael ei iacháu, “Arglwydd, gelli di fy ngwneud i'n iach os wyt ti eisiau.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Pan oedd Iesu yn un o'r trefi, dyma ddyn yn llawn o'r gwahanglwyf yn ei weld ac yn syrthio ar ei wyneb ac yn ymbil arno, "Syr, os mynni, gelli fy nglanhau."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A bu, tra yr oedd efe yn un o'r dinasoedd, wele hefyd ddyn yn llawn o wahan‐glwyf: ac efe a welodd yr Iesu, ac a syrthiodd ar ei wyneb, ac a ymbiliodd âg ef, gan ddywedyd, O Arglwydd, os ewyllysi, ti a elli fy nglanhâu.