Luke 5:13 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’r Iesu a esten d awdd ei law, ac ei cyfyrddawd ef, gan ddywedyt, Ewyllysaf, glanhaer di. Ac yn y van yr ymadawodd y gohanglwyf ac ef.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac wedi estyn allan Ei law, cyffyrddodd Efe ag ef, gan ddywedyd, Ewyllysiaf: glanhaer di; ac yn uniawn y gwahan-glwyf a aeth ymaith oddiwrtho.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac estynnodd ei law, a chyffyrddodd ag ef, gan ddywedyd, “Mynnaf, glanhaer di.” Ac yn ebrwydd ymadawodd y gwahanglwyf ag ef.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yntau a estynnodd ei law, ac a gyffyrddodd ag ef, gan ddywedyd, Yr wyf yn ewyllysio; bydd lân. Ac yn ebrwydd y gwahanglwyf a aeth ymaith oddi wrtho.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma Iesu yn estyn ei law a chyffwrdd y dyn. “Dyna dw i eisiau,” meddai, “bydd lân!” A'r eiliad honno dyma'r gwahanglwyf yn diflannu.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Estynnodd Iesu ei law a chyffwrdd ag ef gan ddweud, "Yr wyf yn mynnu, glanhaer di." Ac ymadawodd y gwahanglwyf ag ef ar unwaith.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac yntau a estynodd ei law, ac a gyffyrddodd âg ef, gan ddywedyd, Yr wyf yn ewyllysio: bydd lân. Ac yn ebrwydd y gwahan‐glwyf a aeth ymaith oddiwrtho.