Luke 5:14 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac ef a ’orchymynawdd iddaw na ddywedei hyn i neb un: an d Dos, eb yr ef, ac ymðangos ir Offeiriat, ac offrwm tros dy ’lanhat, mal y gorchmynawdd Moysen, yn testiolaeth yddynt.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac Efe a orchymynodd iddo na ddywedai wrth neb; eithr, wedi myned ymaith, dangos dy hun i’r offeiriad, a thyred â’r offrwm am dy lanhad, fel yr ordeiniodd Mosheh, yn dystiolaeth iddynt.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Yntau a orchmynnodd iddo na ddywedai wrth neb, “eithr dos ymaith a dangos dy hun i’r offeiriad, ac offryma dros dy lanhad yn ôl fel yr ordeiniodd Moses, er tystiolaeth iddynt.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac efe a orchmynnodd iddo na ddywedai i neb: eithr dos ymaith, a dangos dy hun i'r offeiriad, ac offrwm dros dy lanhad, fel y gorchmynnodd Moses, er tystiolaeth iddynt.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ar ôl ei rybuddio i beidio dweud wrth neb beth oedd wedi digwydd, dyma Iesu'n dweud wrtho, “Dos i ddangos dy hun i'r offeiriad. Ac fel y dwedodd Moses, dos ag offrwm gyda ti, yn dystiolaeth i'r bobl dy fod ti wedi cael dy iacháu.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Gorchmynnodd Iesu iddo beidio dweud wrth neb: "Dos ymaith," meddai, "a dangos dy hun i'r offeiriad, ac offryma dros dy lanhad fel y gorchmynnodd Moses, yn dystiolaeth gyhoeddus."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac efe a orchymynodd iddo na ddywedai wrth neb: ond, Ar ol myned ymaith, dangos dy hun i'r Offeiriad, a dwg dy offrwm am dy lanhâd, fel yr ordeiniodd Moses, er tystiolaeth iddynt.