Luke 5:15 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac aros hyny yn vwy yr aeth y gair am danaw ar lled, a’ minteioedd lawer a ðauent ynghyt i wrandaw, ac y’w h iachau ganthaw o ei gwendit.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac yn fwy ar led yr aeth y gair am Dano; a daeth ynghyd dorfeydd mawrion i glywed ac i’w hiachau o’u clefydau:
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ond ymledodd fwyfwy y sôn amdano, ac ymgasglai tyrfaoedd lawer i wrando, ac i’w hiacháu o’u hafiechydon.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r gair amdano a aeth yn fwy ar led: a llawer o bobloedd a ddaethant ynghyd i'w wrando ef, ac i'w hiacháu ganddo o'u clefydau.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond roedd y newyddion amdano yn mynd ar led fwy a mwy. Roedd tyrfaoedd mawr o bobl yn dod i wrando arno ac i gael eu hiacháu.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond yr oedd y sn amdano yn ymledu fwyfwy, ac yr oedd tyrfaoedd lawer yn ymgynnull i wrando ac i gael eu hiachu oddi wrth eu clefydau.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ond y gair am dano ef a aeth fwy‐fwy ar led; a thyrfaoedd lawer a ddaethant ynghyd i'w glywed ef, ac i'w hiachâu o'u gwendidau.