Luke 5:17 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ darvu, ar ryw ddydd, val yr oedd ef yn ei dyscu, bot o’r Pharisaieit a’ dysciawdron y Ddeddyf yn eystedd yno, yr ei a ddaethent o bop tref yn Galilaia yn Iudaia, ac o Gaerusalem, a’ meddiant yr Arglwyð oedd yndavv er y iachau hwy.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A bu, ar un o’r dyddiau hyny, ac Efe oedd yn dysgu, ac yr oedd yn eu heistedd Pharisheaid ac Athrawon y Gyfraith, y rhai a ddaethent o bob pentref yn Galilea, ac Iwdea ac Ierwshalem;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac un diwrnod yr oedd ef yn dysgu, ac yn eistedd yno yr oedd Phariseaid ac athrawon y gyfraith, a ddaethai o bob pentref yn Galilea ac Iwdea ac o Gaersalem; ac yr oedd iddo nerth yr Arglwydd i iacháu.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A bu ar ryw ddiwrnod, fel yr oedd efe yn athrawiaethu, fod Phariseaid a doctoriaid y gyfraith yn eistedd yno, y rhai a ddaethent o bob pentref yng Ngalilea, a Jwdea, a Jerwsalem: ac yr oedd gallu'r Arglwydd i'w hiacháu hwynt.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Un diwrnod, pan oedd Iesu wrthi'n dysgu'r bobl, roedd Phariseaid ac arbenigwyr yn y Gyfraith yn eistedd, heb fod yn bell, yn gwrando arno. (Roedden nhw wedi dod yno o bob rhan o Galilea, a hefyd o Jwdea a Jerwsalem). Ac roedd nerth yr Arglwydd yn galluogi Iesu i iacháu pobl.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Un diwrnod yr oedd ef yn dysgu, ac yn eistedd yno yr oedd Phariseaid ac athrawon y Gyfraith oedd wedi dod o bob pentref yng Ngalilea ac o Jwdea ac o Jerwsalem; ac yr oedd nerth yr Arglwydd gydag ef i iachu.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A bu ar un o'r dyddiau, ac efe yn dysgu, yr oedd Phariseaid a Dysgawdwyr y Gyfraith hefyd yn eistedd: yr oeddynt wedi dyfod allan o bob pentref yn Galilea, a Judea, ac o Jerusalem: ac yr oedd gallu yr Arglwydd ganddo er iachâu.