Luke 5:18 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yno nycha ’r ei yn dwyn dyn y mywn gwely, oeð yn glaf o’r par a lys, ac y gaisiesont i ddwyn ef y mewn, a’ ei ’osod geyr y vron ef.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
a gallu’r Arglwydd oedd i iachau o Hono; ac wele, dynion yn dwyn ar wely ddyn a oedd glaf o’r parlys, a cheisient ddyfod ag ef i mewn, a’i ddodi ger Ei fron Ef.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A dyma wŷr yn dwyn ar wely ddyn a oedd yn barlysedig, a cheisient ei ddwyn i mewn, a’i osod ger ei fron ef.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac wele wŷr yn dwyn mewn gwely ddyn a oedd glaf o'r parlys: a hwy a geisiasant ei ddwyn ef i mewn, a'i ddodi ger ei fron ef.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
A dyma ryw bobl yn dod â dyn oedd wedi ei barlysu ato, yn gorwedd ar fatras. Roedden nhw'n ceisio mynd i mewn i'w osod i orwedd o flaen Iesu.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
A dyma wu375?r yn cario ar wely ddyn wedi ei barlysu; ceisio yr oeddent ddod ag ef i mewn a'i osod o flaen Iesu.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac wele wŷr yn dwyn ar wely ddyn ag oedd wedi ei daro â'r parlys, ac yr oeddynt yn ceisio ei ddwyn ef i mewn, a'i osod o'i flaen ef.