Luke 5:19 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ phan na vedrent ddychymygu pa ffordd y dygent ef y mywn, gan y dorf, wy ðringesant ar y tuy, ac ei gellyngesant y lawr drwy ’r to, ef ar gwely, yn y cenol geyr bron yr Iesu.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A phan na chawsant pa fodd y deuent ag ef i mewn, o achos y dyrfa, wedi esgyn ar y tŷ, trwy’r pridd-lechau y gollyngasant ef i wared ynghyda’r gwely bach, i’r canol ger bron yr Iesu.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac wedi methu canfod pa ffordd y dygent ef i mewn oherwydd y dyrfa, esgynasant hyd ar nen y tŷ, a thrwy’r priddlechau gollyngasant ef gyda’r gwely i’r canol o flaen yr Iesu.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A phan na fedrent gael pa ffordd y dygent ef i mewn, o achos y dyrfa, hwy a ddringasant ar nen y tŷ, ac a'i gollyngasant ef i waered yn y gwely trwy'r priddlechau, yn y canol gerbron yr Iesu.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Pan wnaethon nhw fethu gwneud hynny am fod yno gymaint o dyrfa, dyma nhw'n mynd i fyny ar y to ac yn tynnu teils o'r to i'w ollwng i lawr ar ei fatras i ganol y dyrfa, reit o flaen Iesu.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Wedi methu cael ffordd i ddod ag ef i mewn oherwydd y dyrfa, dringasant ar y to a'i ollwng drwy'r priddlechi, ynghyd 'i wely, i'r canol o flaen Iesu.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A phan na chawsant allan pa fodd y dygent ef i mewn o achos y dyrfa, hwy a aethant i fyny ar nen y tŷ, ac a'i gollyngasant ef i waered gyd â'i wely bychan drwy y pridd‐lechau i'r canol gerbron yr Iesu.