Luke 5:2 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
ac e welodd ddwy long yn sefyll wrth y llynn, a’r pyscotwyr a descennesent o hanwynt, ac oeddynt yn golchi ei rhwytae.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
a gwelodd ddau gwch yn sefyll wrth y llyn, a’r pysgodwyr, wedi myned allan o honynt, a olchent eu rhwydau.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
a gwelodd ddwy long yn sefyll wrth y llyn; yr oedd y pysgodwyr wedi disgyn ohonynt ac yn golchi’r rhwydau.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac efe a welai ddwy long yn sefyll wrth y llyn: a'r pysgodwyr a aethent allan ohonynt, ac oeddynt yn golchi eu rhwydau.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Gwelodd fod dau gwch wedi eu gadael ar y lan tra roedd y pysgotwyr wrthi'n golchi eu rhwydi.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
gwelodd ddau gwch yn sefyll wrth y lan. Yr oedd y pysgotwyr wedi dod allan ohonynt, ac yr oeddent yn golchi eu rhwydau.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
ac efe a welodd ddau gwch yn sefyll wrth y Llyn: ond y pysgodwyr, wedi myned allan o honynt, oeddynt yn golchi eu rhwydau.