Luke 5:20 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ phan welas ef y ffydd wy, y dyuot wrtho ef. Y dyn ys maddeuwyt yty dy pechotae.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac wedi gweled eu ffydd, dywedodd Efe, O ddyn, maddeuwyd i ti dy bechodau.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac wrth weled eu ffydd hwynt fe ddywedodd, “Ddyn, maddeuwyd i ti dy bechodau.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A phan welodd efe eu ffydd hwynt, efe a ddywedodd wrtho, Y dyn, maddeuwyd i ti dy bechodau.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Pan welodd Iesu'r ffydd oedd ganddyn nhw, dwedodd wrth y dyn, “Mae dy bechodau wedi eu maddau.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Wrth weld eu ffydd hwy dywedodd ef, "Ddyn, y mae dy bechodau wedi eu maddau iti."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A phan welodd efe eu ffydd hwynt, efe a ddywedodd, Y dyn, Y mae dy bechodau wedi eu maddeu i ti.