Luke 5:21 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yno y dechreuawdd y Gwyr‐llen a’r Pharisaieit veddyliaw, gan ddywedyt, Pwy ’n yw hwn ’sy yn dywedyt cablae? pwy aill vaddae pechatae ’n amyn Duw y h un?
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A dechreu ymresymmu a wnaeth yr ysgrifenyddion a’r Pharisheaid, gan ddywedyd, Pwy yw hwn y sy’n llefaru cableddau? Pwy sy’n abl i faddeu pechodau oddieithr Duw yn unig?
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A dechreuodd yr ysgrifenyddion a’r Phariseaid feddwl a dywedyd, “Pwy yw hwn sy’n siarad cableddau? Pwy all faddau pechodau ond Duw yn unig?”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r ysgrifenyddion a'r Phariseaid a ddechreuasant ymresymu, gan ddywedyd, Pwy yw hwn sydd yn dywedyd cabledd? pwy a ddichon faddau pechodau ond Duw yn unig?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma'r Phariseaid a'r arbenigwyr yn y Gyfraith yn dechrau meddwl, “Pwy ydy hwn, ei fod yn cablu fel hyn? Duw ydy'r unig un sy'n gallu maddau pechodau!”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
A dechreuodd yr ysgrifenyddion a'r Phariseaid feddwl, "Pwy yw hwn sy'n llefaru cabledd? Pwy ond Duw yn unig a all faddau pechodau?"
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A'r Ysgrifenyddion a'r Phariseaid a ddechreuasant ymresymu, gan ddywedyd, Pwy yw hwn sydd yn llefaru cableddau? Pwy a ddichon faddeu pechodau, ond Duw yn unig?