Luke 5:24 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac val y gwybyddoch vot i Vap y dyn awdurtot i vaðae pechatae yn y ddaiar (eb yr ef wrth y claf or par a lys) Wrthyt y dywedaf, Cyuot: cymer i vyny dy wely, a’ dos ith tuy.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ond fel y gwypoch fod awdurdod gan Fab y Dyn ar y ddaear i “faddeu pechodau” (dywedodd wrth y claf o’r parlys), Wrthyt y dywedaf Cyfod, a chan godi dy wely bach, dos i’th dŷ.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ond fel y gwypoch fod gan Fab y dyn awdurdod ar y ddaear i faddau pechodau — ” eb ef wrth y parlysedig, “Wrthyt ti y dywedaf, Cyfod, a chymer dy wely, a dos adref.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ond fel y gwypoch fod gan Fab y dyn awdurdod ar y ddaear i faddau pechodau, (eb efe wrth y claf o'r parlys,) Yr wyf yn dywedyd wrthyt, Cyfod, a chymer dy wely, a dos i'th dŷ.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Cewch weld fod gen i, Fab y Dyn, hawl i faddau pechodau ar y ddaear.” A dyma Iesu'n troi at y dyn oedd wedi ei barlysu a dweud wrtho, “Cod ar dy draed, cymer dy fatras, a dos adre.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond er mwyn i chwi wybod fod gan Fab y Dyn awdurdod ar y ddaear i faddau pechodau" meddai wrth y claf, "Dyma fi'n dweud wrthyt, cod a chymer dy wely a dos adref."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ond fel y gwypoch fod gan Fab y Dyn awdurdod ar y ddaear i faddeu pechodau, efe a ddywedodd wrth yr hwn oedd wedi ei daro â'r parlys, Yr wyf yn dywedyd wrthyt, Cyfod a chymmer i fyny dy wely bychan, a dos i'th dŷ.