Luke 5:25 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac yn y man y cyuodes y vyny dd rhac y bron wy, ac a gymerth i vyny ei vvely yn yr hwn y gorweddei, ac aeth ymaith y’w duy y hun, gan volianny Duw.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A chan gyfodi yn uniawn yn eu gwydd hwynt, ac wedi codi yr hyn y gorweddai arno, yr aeth ymaith i’w dŷ, dan ogoneddu Duw.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac ar unwaith fe safodd i fyny ger eu bron, a chodi’r hyn y gorweddai arno, a mynd adref gan ogoneddu Duw.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac yn y man y cyfododd efe i fyny yn eu gŵydd hwynt; ac efe a gymerth yr hyn y gorweddai arno, ac a aeth ymaith i'w dŷ ei hun, gan ogoneddu Duw.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
A dyna'n union wnaeth y dyn! Cododd ar ei draed o flaen pawb yn y fan a'r lle, cymryd y fatras roedd wedi bod yn gorwedd arni, ac aeth adre gan foli Duw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ac ar unwaith cododd yntau yn eu gu373?ydd, cymryd y gwely y bu'n gorwedd arno, a mynd adref gan ogoneddu Duw.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac yn y fan efe a gyfododd i fyny yn eu gŵydd hwynt: ac a gymmerodd i fyny yr hyn y gorweddai arno, ac a aeth ymaith i'w dŷ ei hun, gan ogoneddu Duw.