Luke 5:26 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac aruthro a wnaethant oll, a’ moli anny Duw, ac wy lanwit o ofn, gan ddywedyt, Can ys gwelsam bethae ancredadwy heddyw.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A syndod a gymmerth arnynt i gyd, a gogoneddasant Dduw, a llanwyd hwy o ofn, gan ddywedyd Gwelsom bethau anhygoel heddyw.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A syfrdandod a ddaeth ar bawb, a gogoneddent Dduw, a llanwyd hwynt o ofn, a dywedasant, “Gwelsom bethau anhygoel heddiw.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A syndod a ddaeth ar bawb, a hwy a ogoneddasant Dduw; a hwy a lanwyd o ofn, gan ddywedyd, Gwelsom bethau anhygoel heddiw.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd pawb wedi eu syfrdanu'n llwyr ac roedden nhw hefyd yn moli Duw. “Dŷn ni wedi gweld pethau anhygoel heddiw,” medden nhw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Daeth syndod dros bawb a dechreusant ogoneddu Duw; llanwyd hwy ag ofn, ac meddent, "Yr ydym wedi gweld pethau anhygoel heddiw."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A syndod a gymmerodd afael yn mhawb, a hwy a ogoneddasant Dduw, ac a lanwyd o ofn, gan ddywedyd, Ni a welsom bethau anhygoel heddyw.