Luke 5:27 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yn ol y pethe hyn, y ddaeth ef allan, ac y gwelawdd ef Bublican a’ei enw Levi, yn eistedd yn y dollfa, ac y ddyuot wrthaw, Dilyn vi.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac ar ol y pethau hyn, aeth Efe allan, a gwelodd dreth-gymmerwr a’i enw Lefi, yn ei eistedd wrth y dollfa,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac ar ôl y pethau hyn, aeth allan a chanfu drethwr o’r enw Lefi yn eistedd wrth y dollfa, a dywedodd wrtho, “Dilyn fi.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac ar ôl y pethau hyn yr aeth efe allan, ac a welodd bublican, a'i enw Lefi, yn eistedd wrth y dollfa; ac efe a ddywedodd wrtho, Dilyn fi.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ar ôl hyn aeth Iesu allan a gwelodd un oedd yn casglu trethi i Rufain, dyn o'r enw Lefi, yn eistedd yn y swyddfa dollau lle roedd yn gweithio. “Tyrd, dilyn fi,” meddai Iesu wrtho;
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Wedi hyn aeth allan ac edrychodd ar gasglwr trethi o'r enw Lefi, a oedd yn eistedd wrth y dollfa, ac meddai wrtho, "Canlyn fi."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac ar ol y pethau hyn yr aeth efe allan, ac efe a ganfyddodd Dreth‐gasglwr, a'i enw Lefi, yn eistedd wrth y Dollfa: ac efe a ddywedodd wrtho, Canlyn fi.