Luke 5:28 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac ef a adawodd oll, a gynodes i uyny, ac y dylynawð ef.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
a dywedodd wrtho, Canlyn Fi: a chan adael pob peth, wedi sefyll i fynu y canlynodd Ef.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac fe adawodd bopeth, a chododd, a’i ddilyn ef.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac efe a adawodd bob peth, ac a gyfododd i fyny, ac a'i dilynodd ef.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
a dyma Lefi'n codi ar unwaith, gadael popeth, a mynd ar ei ôl.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
A chan adael popeth cododd yntau a'i ganlyn.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac efe a lwyr‐adawodd bob peth, ac a gyfododd, ac a'i canlynodd ef.