Luke 5:3 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac ef a dringawdd i vn o’r llongae yr hon y oedd eiddo Simon ac a archawdd iddo hi gwthiaw ychidic y wrth y tir: ac ef a eisteddawdd, ac a ddyscawdd y torfoedd allan o’r llong.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac wedi myned i mewn i un o’r cychod, yr hwn oedd eiddo Shimon, gofynodd iddo wthio ychydig oddiwrth y tir; ac wedi eistedd, dysgodd y torfeydd, allan o’r cwch.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac aeth i mewn i un o’r llongau, sef un Simon, a gofynnodd iddo wthio ychydig oddi wrth y tir; ac wedi eistedd, fe ddechreuodd ddysgu’r tyrfaoedd o’r llong.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac efe a aeth i mewn i un o'r llongau, yr hon oedd eiddo Simon, ac a ddymunodd arno wthio ychydig oddi wrth y tir. Ac efe a eisteddodd, ac a ddysgodd y bobloedd allan o'r llong.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Aeth i mewn i un o'r cychod, a gofyn i Simon, y perchennog, ei wthio allan ychydig oddi wrth y lan. Yna eisteddodd a dechrau dysgu'r bobl o'r cwch.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Aeth ef i mewn i un o'r cychod, eiddo Simon, a gofyn iddo wthio allan ychydig o'r tir; yna eisteddodd, a dechrau dysgu'r tyrfaoedd o'r cwch.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac efe a aeth i mewn i un o'r cychod, yr hwn oedd eiddo Simon, ac a ofynodd iddo i wthio ychydig oddiwrth y tir. Ac efe a eisteddodd ac a ddysgodd y torfeydd allan o'r cwch.