Luke 5:30 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Eithyr y sawl o hanynt oedd ’wyr‐llen a’ Pharisaieit murmuro a wnaethant yn erbyn y ddiscipulon ef, gan ddywedyt, Paam y bwytewch ac yr yfwch y gyd a’r Publicanot a’ phechaturieit?
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A murmurodd y Pharisheaid a’u hysgrifenyddion wrth Ei ddisgyblion gan ddywedyd, Paham mai gyda’r treth-gymmerwyr a phechaduriaid y bwyttewch ac yr yfwch?
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A grwgnachai’r Phariseaid a’u hysgrifenyddion wrth ei ddisgyblion, gan ddywedyd, “Paham y bwytewch ac yr yfwch gyda’r trethwyr a’r pechaduriaid?”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Eithr eu hysgrifenyddion a'u Phariseaid hwynt a furmurasant yn erbyn ei ddisgyblion ef, gan ddywedyd, Paham yr ydych chwi yn bwyta ac yn yfed gyda phublicanod a phechaduriaid?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond dyma'r Phariseaid a'u harbenigwyr nhw yn y Gyfraith yn cwyno i'w ddisgyblion, “Pam dych chi'n bwyta ac yfed gyda'r bradwyr sy'n casglu trethi i Rufain, a phobl eraill sy'n ddim byd ond ‛pechaduriaid‛?”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yr oedd y Phariseaid a'u hysgrifenyddion yn grwgnach wrth ei ddisgyblion gan ddweud, "Pam yr ydych yn bwyta ac yn yfed gyda chasglwyr trethi a phechaduriaid?"
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A grwgnach wnaeth y Phariseaid a'u Hysgrifenyddion hwynt wrth ei Ddysgyblion ef, gan ddywedyd, Paham yr ydych chwi yn bwyta ac yn yfed gyd â'r Treth‐gasglwyr â'r Pechaduriaid?