Luke 5:33 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yno y dywed e sont wrthaw, Paam ydd vmprydia discipulon Ioan yn vynech, ac y gweðiant, a’ discipulon y Pharisaiait hefyt, ath rei di thef yn bwta ac yn yfed?
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A hwy a ddywedasant Wrtho, Disgyblion Ioan a ymprydiant yn fynych, a gweddïau a wnant; ac yn y cyffelyb fodd yr eiddo y Pharisheaid, ond yr eiddot Ti a fwyttant ac a yfant.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Dywedasant hwythau wrtho, “Y mae disgyblion Ioan yn ymprydio’n fynych; ac yn arfer gweddïau, felly hefyd rhai’r Phariseaid, ond mae dy rai di’n bwyta ac yn yfed.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A hwy a ddywedasant wrtho, Paham y mae disgyblion Ioan yn ymprydio yn fynych, ac yn gwneuthur gweddïau, a'r un modd yr eiddo y Phariseaid; ond yr eiddot ti yn bwyta ac yn yfed?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma nhw'n dweud wrth Iesu, “Mae disgyblion Ioan yn ymprydio ac yn gweddïo'n aml, a disgyblion y Phariseaid yr un fath. Pam mae dy rai di yn dal ati i fwyta ac yfed drwy'r adeg?”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond meddent hwythau wrtho, "Y mae disgyblion Ioan yn ymprydio yn aml ac yn adrodd eu gweddau, a rhai'r Phariseaid yr un modd, ond bwyta ac yfed y mae dy ddisgyblion di."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ond hwy a ddywedasant wrtho, Y mae Dysgyblion Ioan yn ymprydio yn fynych, ac yn gwneuthur deisyfiadau; a'r un modd hefyd Dysgyblion y Phariseaid; ond y mae dy Ddysgyblion di yn bwyta ac yn yfed.