Luke 5:34 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac ef a ddyuot wrthynt, A ellw‐chwi wneythy’r plant ystafell‐briodas y vmprydiaw, tra vo ’r Priawd y gyd ac wynt?
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A’r Iesu a ddywedodd wrthynt, A ellwch chwi wneuthur i feibion yr ystafell briodas ymprydio, tra y mae’r priodas-fab gyda hwynt?
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A dywedodd yr Iesu wrthynt, “A ellwch chwi wneuthur i westeion y briodas ymprydio tra fo’r priodfab gyda hwynt?
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yntau a ddywedodd wrthynt, A ellwch chwi beri i blant yr ystafell briodas ymprydio, tra fyddo'r priodasfab gyda hwynt?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Atebodd Iesu nhw, “Ydych chi'n gorfodi pobl sy'n mynd i wledd briodas i ymprydio? Maen nhw yno i ddathlu gyda'r priodfab!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Meddai Iesu wrthynt, "A allwch wneud i westeion priodas ymprydio tra bydd y priodfab gyda hwy?
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A'r Iesu a ddywedodd wrthynt, A ellwch chwi beri i Feibion yr Ystafell Briodas ymprydio, tra y mae y Priodas‐fab gyd â hwynt.