Luke 5:36 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac ef o ddyuot barabol wrthynt, Ny ddyd nep lain o wisc newydd mewn hen ddilledyn: can ys yno y newydd ei rhwyg, a’r llain o’r vn newyd ny chyssona a’r hen.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A llefarodd hefyd ddammeg wrthynt, Nid yw neb, ar ol rhwygo llain oddiwrth ddilledyn newydd, yn ei roddi ar ddilledyn hen: onite y newydd a rwyga efe, ac â’r hen ni chyttuna y llain y sydd oddiwrth y newydd.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Dywedodd hefyd ddameg wrthynt, “Ni thyr neb glwt allan o ddilledyn newydd a’i osod ar hen ddilledyn; onid e, fe fydd yn torri’r newydd, a hefyd ni bydd y clwt allan o’r newydd yn cydweddu â’r hen.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac efe a ddywedodd hefyd ddameg wrthynt: Ni rydd neb lain o ddilledyn newydd mewn hen ddilledyn: os amgen, y mae'r newydd yn gwneuthur rhwygiad, a'r llain o'r newydd ni chytuna â'r hen.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yna dyma Iesu'n dweud fel hyn wrthyn nhw: “Does neb yn rhwygo darn o frethyn oddi ar ddilledyn newydd a'i ddefnyddio i drwsio hen ddilledyn. Byddai'r dilledyn newydd wedi ei rwygo, a'r darn newydd o frethyn ddim yn gweddu i'r hen.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Adroddodd hefyd ddameg wrthynt: "Ni fydd neb yn rhwygo clwt allan o ddilledyn newydd a'i roi ar hen ddilledyn; os gwna, nid yn unig fe fydd yn rhwygo'r newydd, ond ni fydd y clwt o'r newydd yn gweddu i'r hen.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac efe hefyd a ddywedodd ddammeg wrthynt, Ni wna neb rwygo dernyn oddiwrth ddilledyn newydd, a'i osod ar hen ddilledyn: os amgen, efe a rwyga y newydd, ac hefyd ni wna y dernyn oddiwrth y newydd gytuno a'r hen.