Luke 5:37 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Hefyt ny thywallt nep ’win newyð mywn hen lestri: can ys yno y dryllia ’r gwin newydd y llestri, ac y cerdd ynt ef allan, ac y col’ir y llestrir.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac ni fwrw neb win newydd i gostrelau hen: onite, dryllia’r gwin newydd y costrelau, ac a efe a dywelltir allan, ac am y costrelau y derfydd;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac ni rydd neb win newydd mewn crwyn hen; onid e, fe rwyga’r gwin newydd y crwyn, ac yntau a red allan a’r crwyn a ddifethir.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac nid yw neb yn bwrw gwin newydd i hen gostrelau: os amgen, y gwin newydd a ddryllia'r costrelau, ac efe a red allan, a'r costrelau a gollir.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
A does neb yn tywallt gwin sydd heb aeddfedu i hen boteli crwyn. Byddai'r crwyn yn byrstio, y gwin yn cael ei golli a'r poteli yn cael eu difetha.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ac ni fydd neb yn tywallt gwin newydd i hen grwyn; os gwna, bydd y gwin newydd yn rhwygo'r crwyn, a heblaw colli'r gwin fe ddifethir y crwyn.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac nid oes neb yn tywallt gwin newydd i hen gostrelau lledr; os amgen, y gwin newydd a rwyga yr hen gostrelau lledr, ac efe a red allan, a'r costrelau lledr a ddinystrir.