Luke 5:39 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Hefyd nyd oes neb a yf ’win hen, yn y van a ddeisyf vn newydd: can ys dywait ef. Gwell yw’r hen.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac nid oes neb, pan yn yfed yr hen, yn chwennych gwin newydd; canys ebr efe, Yr hen sydd dda.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac nid oes neb wedi iddo yfed hen win yn chwennych newydd; canys, fe ddywed, ‘Yr hen sy dda’;”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac nid oes neb, gwedi iddo yfed gwin hen, a chwennych y newydd yn y fan: canys efe a ddywed, Gwell yw'r hen.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond y peth ydy, does neb eisiau'r gwin newydd ar ôl bod yn yfed yr hen win! ‘Mae'n well gynnon ni'r hen win,’ medden nhw!”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ac ni fydd neb sydd wedi yfed hen win yn dymuno gwin newydd; oherwydd y mae'n dweud, 'Yr hen sydd dda.'"
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac nid oes neb, gwedi iddo yfed yr hen, a chwenycha win newydd, canys y mae yn dywedyd, Hyfryd yw yr hen.