Luke 5:6 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac wedy yddwynt wneythyr hyn, wy a ddaliesont liaws mawr o byscot, yd pan rwygawdd y rhwyt wy.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A phan hyn a wnelsent, cyd-gauasant liaws mawr o bysgod, ac ar dorri yr oedd eu rhwydau;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac wedi iddynt wneuthur hyn, caeasant am liaws mawr o bysgod; ac yr oedd eu rhwydau yn rhwygo.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac wedi iddynt wneuthur hynny, hwy a ddaliasant liaws mawr o bysgod: a'u rhwyd hwynt a rwygodd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyna wnaethon nhw a dyma nhw'n dal cymaint o bysgod nes i'r rhwydi ddechrau rhwygo.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Gwnaethant hyn, a daliasant nifer enfawr o bysgod, nes bod eu rhwydau bron rhwygo.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac wedi iddynt wneuthur hyn, hwy a amgauasant luaws mawr o bysgod, ac yr oedd eu rhwydau hwynt yn dechreu rhwygo.