Luke 5:7 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac wy a amneidiesant ar ei cyveillion, yr ei oeddent yn y llong arall, y ddewot yw canhorthwyaw, yr ei ddeuthant, ac a lanwesant y ddwy long, y’n y soddesont.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
ac amneidiasant at eu cyd-gyfranogion oedd yn y cwch arall i ddyfod i’w cynnorthwyo hwynt; a dyfod a wnaethant, a llanwasant y ddau gwch fel yr oeddynt ar soddi.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac amneidiasant ar eu cymdeithion yn y llong arall i ddyfod i’w cynorthwyo; a daethant, a llanwasant y ddwy long, nes eu bod yn dechrau suddo.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A hwy a amneidiasant ar eu cyfeillion, oedd yn y llong arall, i ddyfod i'w cynorthwyo hwynt. A hwy a ddaethant; a llanwasant y ddwy long, onid oeddynt hwy ar soddi.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma nhw'n galw ar eu partneriaid yn y cwch arall i ddod i'w helpu. Pan ddaeth y rheiny, cafodd y ddau gwch eu llenwi â chymaint o bysgod nes eu bod bron â suddo!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Amneidiasant ar eu partneriaid yn y cwch arall i ddod i'w cynorthwyo. Daethant hwy, a llwythasant y ddau gwch nes eu bod ar suddo.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A hwy a amneidiasant ar y rhai oeddynt gyfranogion â hwynt yn y cwch arall, i ddyfod i'w cynorthwyo hwynt: a hwy a ddaethant, ac a lanwasant y ddau gwch, fel ag yr oeddynt ar soddi.