Luke 5:8 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ phan welawdd Simon Petr hyny, e ddygwyddawdd i lawr wrth ’liniae ’r Iesu, gan ddywedyt, Arglwydd, dos ywrthyf, can ys dyn pechaturus wyf:
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A chan weled o Shimon Petr hyn, syrthiodd wrth liniau’r Iesu, gan ddywedyd, Dos allan oddiwrthyf, canys dyn pechadurus wyf, O Arglwydd;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A phan welodd Simon Pedr, fe syrthiodd wrth liniau Iesu, gan ddywedyd, “Dos ymaith oddi wrthyf i, canys dyn pechadurus wyf, Arglwydd.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A Simon Pedr, pan welodd hynny, a syrthiodd wrth liniau'r Iesu, gan ddywedyd, Dos ymaith oddi wrthyf; canys dyn pechadurus wyf fi, O Arglwydd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Pan welodd Simon Pedr beth oedd wedi digwydd, syrthiodd ar ei liniau o flaen Iesu a dweud, “Dos i ffwrdd oddi wrtho i, Arglwydd; dw i'n ormod o bechadur!”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Pan welodd Simon Pedr hyn syrthiodd wrth liniau Iesu gan ddweud, "Dos ymaith oddi wrthyf, oherwydd dyn pechadurus wyf fi, Arglwydd."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A Simon Petr, pan welodd, a syrthiodd wrth liniau yr Iesu, gan ddywedyd, Dos allan ymaith oddiwrthyf fi; canys dyn pechadurus wyf, O Arglwydd: