Luke 6:1 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
AC e ðarvu ar yr ail Sabbath gvvedy’r cyntaf, vot iddaw vyned trwy ’r maesydd yde, ac ir discipulon dynny y tywys, a’ ei rhuglo a’ ei dwylo.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A bu ar Sabbath, fyned o Hono trwy faesydd yd, a thynnodd Ei ddisgyblion y tywys, a bwyttasant gan eu rhwbio â’u dwylaw.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A digwyddodd ar ryw Sabbath ei fod yn tramwy drwy feysydd ŷd, ac yr oedd ei ddisgyblion yn tynnu ac yn bwyta’r tywys, gan eu rhwbio â’u dwylo.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A bu ar yr ail prif Saboth, fyned ohono trwy'r ŷd: a'i ddisgyblion a dynasant y tywys, ac a'u bwytasant, gwedi eu rhwbio â'u dwylo.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd Iesu'n croesi drwy ganol caeau ŷd ryw ddydd Saboth, a dyma'i ddisgyblion yn dechrau tynnu rhai o'r tywysennau ŷd, eu rhwbio yn eu dwylo a'u bwyta.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Un Saboth yr oedd yn mynd trwy gaeau u375?d, ac yr oedd ei ddisgyblion yn tynnu tywysennau ac yn eu bwyta, gan eu rhwbio yn eu dwylo.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A bu ar ddydd Sabbath iddo fyned drwy y meusydd ŷd, a'i Ddysgyblion a dynasant y tywys, ac a'u bwytasant, gan eu rhuglo â'u dwylaw.