Luke 6:17 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yno y descen d awdd ef i vvared y gyd a ’n hwy, ac y safawdd mewn maestir y gyd a’r dorf o ei ddiscipulon, a’ lliaws mawr o werin o’r oll Iudaia, a’ Caerusalem, ac o duedd glan mor Tyr us a’ Sidon, yr ei a ddaethent er mvvyn y glywet ef, a’ chael i hiachau o ei heintiae:
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac wedi dyfod i wared gyda hwynt, safodd ar le gwastad, a thyrfa fawr o’i ddisgyblion, a lliaws mawr o bobl o holl Iwdea a Ierwshalem, ac o duedd môr Tyrus a Tsidon, y rhai a ddaethant i’w glywed Ef ac i’w hiachau o’u clefydau;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A disgynnodd gyda hwynt, a safodd ar wastatir, ac yr oedd tyrfa fawr o’i ddisgyblion, a lliaws mawr o’r bobl o holl Iwdea a Chaersalem ac arfordir Tyrus a Sidon, a ddaethai i’w glywed ac i’w hiacháu o’u hanhwylderau;
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac efe a aeth i waered gyda hwynt, ac a safodd mewn gwastatir; a'r dyrfa o'i ddisgyblion, a lliaws mawr o bobl o holl Jwdea a Jerwsalem, ac o duedd môr Tyrus a Sidon, y rhai a ddaeth i wrando arno, ac i'w hiacháu o'u clefydau,
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yna aeth i lawr i le gwastad. Roedd tyrfa fawr o'i ddilynwyr gydag e, a nifer fawr o bobl eraill o bob rhan o Jwdea, ac o Jerwsalem a hefyd o arfordir Tyrus a Sidon yn y gogledd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Aeth i lawr gyda hwy a sefyll ar dir gwastad, gyda thyrfa fawr o'i ddisgyblion, a llu niferus o bobl o Jwdea gyfan a Jerwsalem ac o arfordir Tyrus a Sidon, a oedd wedi dod i wrando arno ac i'w hiachu o'u clefydau;
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac efe a aeth i waered gyd â hwynt, ac a safodd ar le gwastad, a thyrfa o'i Ddysgyblion ef, a lluaws mawr o'r bobl, o holl Judea a Jerusalem, ac o arfordir Tyrus a Sidon,