Luke 6:21 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Gwyn eich byd yr ei ’sy yn newyny yr awrhon: can ys chvvi a ddiwallir: Gwyn eich byd yr ei a wylwch yr awrhon: can ys chvvi a chwerddwch.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Gwyn eich byd y rhai sydd a newyn arnoch yr awr hon, canys digonir chwi. Gwyn eich byd y rhai yn gwylo yn awr, canys chwerthin a gewch.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Gwyn eich byd sy’n newynu’n awr, canys chwi a ddiwellir. Gwyn eich byd sy’n wylo’n awr, canys chwi a chwerddwch.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Gwyn eich byd y rhai ydych yn dwyn newyn yr awr hon: canys chwi a ddigonir. Gwyn eich byd y rhai ydych yn wylo yr awr hon: canys chwi a chwerddwch.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dych chi sy'n llwgu ar hyn o bryd wedi'ch bendithio'n fawr, oherwydd cewch chi wledd fydd yn eich bodloni'n llwyr ryw ddydd. Dych chi sy'n crïo ar hyn o bryd wedi'ch bendithio'n fawr, oherwydd cewch chwerthin yn llawen ryw ddydd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Gwyn eich byd chwi sydd yn awr yn newynog, oherwydd cewch eich digoni. Gwyn eich byd chwi sydd yn awr yn wylo, oherwydd cewch chwerthin.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Gwyn eich byd y rhai ydych mewn newyn yr awrhon: canys chwi a a ddigonir. Gwyn eich byd y rhai ydych yn wylo yr awrhon: canys chwi a chwerddwch.