Luke 6:22 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Gwyn eich byd pan ich casao dynion, a’ phan ich gohanant, a’ ch’ divenwi, a’ bwrw allan eich enw val yn ðrwc er mwyn Map y dyn.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Gwyn eich byd pan y’ch casao dynion, a phan y’ch didolant chwi, ac y’ ch gwaradwyddant, ac y bwriant allan eich enw megis drwg, o achos Mab y Dyn.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Gwyn eich byd pan gasao dynion chwi, a phan esgymunont chwi, a’ch gwaradwyddo a bwrw allan eich enw fel peth drwg o achos Mab y dyn.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Gwyn eich byd pan y'ch casao dynion, a phan y'ch didolant oddi wrthynt, ac y'ch gwaradwyddant, ac y bwriant eich enw allan megis drwg, er mwyn Mab y dyn.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dych chi wedi'ch bendithio'n fawr pan fydd pobl yn eich casáu a'ch cau allan a'ch sarhau, a'ch enwau'n cael eu pardduo am eich bod yn perthyn i mi, Mab y Dyn.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Gwyn eich byd pan fydd pobl yn eich casu, yn eich ysgymuno a'ch gwaradwyddo, ac yn dirmygu eich enw fel peth drwg, o achos Mab y Dyn.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Gwyn eich byd pan y cashâo dynion chwi, ac y'ch hesgymunant, ac y'ch gwaradwyddant, ac a daflant allan eich enw fel drwg er mwyn Mab y Dyn.