Luke 6:23 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Byddwch lawen yn y dydd hwnw, a’ byddwch‐hyfryt: can ys nycha, eich gwobr ’sy vawr yn y nefoedd: o bleit yn y modd hyn y gwnaeth y tadae hwy ir Prophwyti.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Llawenychwch yn y dydd hwnw, a llemmwch, canys wele, eich gwobr sydd fawr yn y nef, canys yr un ffunud y gwnaeth eu tadau i’r prophwydi.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Byddwch lawen yn y dydd hwnnw, a llemwch; canys wele, eich gwobr sy fawr yn y nef; oblegid yr un modd y gwnâi eu tadau i’r proffwydi.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Byddwch lawen y dydd hwnnw, a llemwch; canys wele, eich gwobr sydd fawr yn y nef: oblegid yr un ffunud y gwnaeth eu tadau hwynt i'r proffwydi.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Felly byddwch yn llawen pan mae'r pethau yma'n digwydd! Neidiwch o lawenydd! Achos mae gwobr fawr i chi yn y nefoedd. Cofiwch mai dyna'n union sut roedd hynafiaid y bobl yma yn trin y proffwydi.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Byddwch lawen y dydd hwnnw a llamwch o orfoledd, oherwydd, ystyriwch, y mae eich gwobr yn fawr yn y nef. Oherwydd felly'n union y gwnaeth eu hynafiaid i'r proffwydi.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Llawenychwch y dydd hwnw, a llemwch gan lawenydd: canys wele, eich gwobr sydd fawr yn y Nef: canys yn ol yr un pethau y gwnaeth eu Tadau i'r Prophwydi.