Luke 6:25 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Gwae chvvy chwi ’r ei llawn can ys chvvi a newynwch. Gwae chwy chvvi a’ chwardd vvch yr awrhon: can ys chvvi a gwynfenwch, ac a wylwch.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Gwae chwi y rhai a lanwyd yn awr, canys newyn fydd arnoch. Gwae y rhai sy’n chwerthin yn awr, canys galaru a gwylo a gewch.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Gwae chwi sy’n llawn yn awr, canys daw newyn arnoch. Gwae chwi sy’n chwerthin yn awr, canys galaru ac wylo y byddwch.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Gwae chwi'r rhai llawn! canys chwi a ddygwch newyn. Gwae chwi'r rhai a chwerddwch yr awr hon! canys chwi a alerwch ac a wylwch.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Gwae chi sydd â hen ddigon i'w fwyta, oherwydd daw'r dydd pan fyddwch chi'n llwgu. Gwae chi sy'n chwerthin yn ddi-hid ar hyn o bryd, oherwydd byddwch yn galaru ac yn crïo.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Gwae chwi sydd yn awr wedi eich llenwi, oherwydd daw arnoch newyn. Gwae chwi sydd yn awr yn chwerthin, oherwydd cewch ofid a dagrau.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Gwae chwi, y rhai ydych lawnion yr awrhon: canys chwi a newynwch. Gwae chwi, y rhai a chwerddwch yr awrhon: canys chwi a alerwch ac a wylwch.