Luke 6:3 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yno ydd atepawdd yr Iesu yddynt ac y dyuot. Ac any ddarllenasochwi hyn pa wnaeth Dauid pan newynawdd yntef, a’r ei oeddent y gyd ac ef,
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A chan atteb iddynt, dywedodd yr Iesu, Oni ddarllenasoch chwaith hyn, pa beth a wnaeth Dafydd, pan yr oedd chwant bwyd arno, efe a’r rhai oedd gydag ef;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac atebodd yr Iesu iddynt, “Oni ddarllenasoch yr hyn a wnaeth i Dafydd, pan ddaeth eisiau bwyd arno ef a’r rhai a oedd gydag ef?
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r Iesu gan ateb iddynt a ddywedodd, Oni ddarllenasoch hyn chwaith, yr hyn a wnaeth Dafydd, pan oedd chwant bwyd arno ef, a'r rhai oedd gydag ef;
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Atebodd Iesu, “Ydych chi ddim wedi darllen beth wnaeth Dafydd pan oedd e a'i ddilynwyr yn llwgu?
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Atebodd Iesu hwy, "Onid ydych wedi darllen am y peth hwnnw a wnaeth Dafydd pan oedd eisiau bwyd arno ef a'r rhai oedd gydag ef?
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A'r Iesu gan ateb iddynt a ddywedodd, Oni ddarllenasoch gymaint a hyn, y peth a wnaeth Dafydd, pan y daeth chwant bwyd arno ef, a'r rhai oedd gyd âg ef?