Luke 6:34 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac a’s benthycwch ir ei y gobeithiwch dd erbyn ganthyn drachefn, pa ’ra ddiol vv ch vydd ychwy? can ys‐y‐pechaturieit a venthycant i’r pechaturieit, er ad erbyn y cyfryw.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac os rhoddwch echwyn i’r rhai y gobeithiwch gael ganddynt, pa ddiolch sydd i chwi? Pechaduriaid hefyd i bechaduriaid a roddant echwyn, fel y derbyniont y cymmaint.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac os rhowch fenthyg i’r rhai y disgwyliwch gael ganddynt, pa ddiolch sydd i chwi? y mae hyd yn oed bechaduriaid yn rhoi benthyg i bechaduriaid er mwyn cael yr un faint yn ôl.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac os rhoddwch echwyn i'r rhai yr ydych yn gobeithio y cewch chwithau ganddynt, pa ddiolch fydd i chwi? oblegid y mae'r pechaduriaid hefyd yn rhoddi echwyn i bechaduriaid, fel y derbyniont y cyffelyb.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Neu os dych chi'n benthyg i'r bobl hynny sy'n gallu'ch talu chi'n ôl, beth wedyn? Mae hyd yn oed ‛pechaduriaid‛ yn fodlon benthyg i'w pobl eu hunain — ac yn disgwyl cael eu talu yn ôl yn llawn!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Os rhowch fenthyg i'r rhai yr ydych yn disgwyl derbyn ganddynt, pa ddiolch fydd i chwi? Y mae hyd yn oed bechaduriaid yn rhoi benthyg i bechaduriaid dim ond iddynt gael yr un faint yn l.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac os rhoddwch fenthyg i'r rhai yr ydych chwithau yn gobeithio derbyn oddiwrthynt, pa fath ddiolch sydd i chwi? canys hefyd y mae pechaduriaid yn rhoddi benthyg i bechaduriaid, fel y derbyniont yn ol yr hyn sydd gyfartal.