Luke 6:35 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Can hyny cerw‐chwi eich gelynion, a’ gwnewch‐ða, a’ benthycwch eb edrych am ddim drachefyn, a’ch g vv ob y r a vyð lliosawc a’ phlant vyddwch ir Goruchaf: can ys‐ef ’sy garedic ir ei ancaredic, ac i’r ei drwc. Yr euangel y iiij. Sul gwedy Trintot.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ond “cerwch” eich gelynion, a “gwnewch dda,” a “rhoddwch echwyn,” heb obeithio dim drachefn; a bydd eich gwobr yn fawr, a byddwch blant y Goruchaf, canys Efe, daionus yw i’r rhai anniolchgar a drwg.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Yn hytrach, cerwch eich gelynion, a gwnewch dda, a rhowch fenthyg heb ddisgwyl dim yn ôl; a bydd eich gwobr yn helaeth, a byddwch yn feibion y Goruchaf, canys tirion yw ef wrth yr anniolchgar a’r drwg.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Eithr cerwch eich gelynion, a gwnewch dda, a rhoddwch echwyn, heb obeithio dim drachefn; a'ch gwobr a fydd mawr, a phlant fyddwch i'r Goruchaf: canys daionus yw efe i'r rhai anniolchgar a drwg.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Carwch chi eich gelynion. Gwnewch ddaioni iddyn nhw. Rhowch fenthyg iddyn nhw heb ddisgwyl cael dim byd yn ôl. Cewch chi wobr fawr am wneud hynny. Bydd hi'n amlwg eich bod yn blant i'r Duw Goruchaf, am mai dyna'r math o beth mae e'n ei wneud — mae'n garedig i bobl anniolchgar a drwg.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Nage, carwch eich gelynion a gwnewch ddaioni a rhowch fenthyg heb ddisgwyl dim yn l. Bydd eich gwobr yn fawr a byddwch yn blant y Goruchaf, oherwydd y mae ef yn garedig wrth yr anniolchgar a'r drygionus.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Yn mhellach, Cerwch eich gelynion, a gwnewch dda; a rhoddwch fenthyg, heb anobeithio mewn dim: a'ch gwobr a fydd mawr, a Meibion y Goruchaf a fyddwch: canys cymwynasgar yw efe i'r rhai anniolchgar a drwg.