Luke 6:38 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Rowch, ac e roddir ychwy: mesur da dwys, wedy ’r gyd yscwyt, ac yn myned trosodd a roddant yn eich monwes: can ys a’r vn mesur y mesuroch, y mesurir ychwy: drachefyn.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
gollyngwch yn rhydd, a gollyngir chwi yn rhyddion: rhoddwch, a rhoddir i chwi; mesur da, dwysedig, wedi ei ysgwyd, ac yn myned trosodd, a roddant yn eich mynwes, canys â pha fesur y mesurwch, y mesurir drachefn i chwi.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Rhoddwch, a rhoddir i chwi; mesur da, wedi ei wasgu i lawr, a’i ysgwyd, ac yn colli drosodd, a roddant yn eich arffed; canys â’r mesur y mesuroch yr adfesurir i chwi.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Rhoddwch, a rhoddir i chwi; mesur da, dwysedig, ac wedi ei ysgwyd, ac yn myned trosodd, a roddant yn eich mynwes: canys â'r un mesur ag y mesuroch, y mesurir i chwi drachefn.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Os gwnewch roi, byddwch yn derbyn. Cewch lawer iawn mwy yn ôl — wedi ei wasgu i lawr, a'i ysgwyd i wneud lle i fwy! Bydd yn gorlifo! Y mesur dych chi'n ei ddefnyddio i roi fydd yn cael ei ddefnyddio i roi'n ôl i chi.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Rhowch, ac fe roir i chwi; rhoir yn eich cl fesur da, wedi ei wasgu i lawr a'i ysgwyd ynghyd nes gorlifo; oherwydd 'r mesur y rhowch y rhoir i chwi yn l."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
rhoddwch, a rhoddir i chwithau: mesur da, wedi ei wasgu ynghyd, wedi ei ysgwyd ynghyd, yn rhedeg allan drosodd, a roddant i'ch mynwes: canys â'r mesur y mesuroch, yr ad‐fesurir i chwithau.