Luke 6:4 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
mal ydd aeth ef y myvvn i duy Dduw, ac y cymerth, ac y bwytaodd y bara dangos, ac y rhoes hefyd ir ei oedd gyd ac ef, yr hwn nid oedd gyfreithlawn y vwyta, any d i’r Offeirieit yn vnic?
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
y modd yr aeth i mewn i dŷ Dduw, a bara’r gosodiad ger bron a gymmerth ac a fwyttaodd efe, a rhoddes hefyd i’r rhai oedd gydag ef, yr hwn nid cyfreithlawn yw ei fwytta, oddieithr gan yr offeiriaid yn unig?
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
y modd yr aeth i mewn i dŷ Dduw, a chymryd y torthau gosod, a’u bwyta, a’u rhoi i’r rhai a oedd gydag ef, pethau na ddylai neb eu bwyta ond yr offeiriaid yn unig?”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Y modd yr aeth efe i mewn i dŷ Dduw, ac y cymerth ac y bwytaodd y bara gosod, ac a'i rhoddes hefyd i'r rhai oedd gydag ef; yr hwn nid yw gyfreithlon ei fwyta, ond i'r offeiriaid yn unig?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Aeth i mewn i dŷ Dduw a chymryd y bara oedd wedi ei gysegru a'i osod yn offrwm i Dduw. Mae'r Gyfraith yn dweud mai dim ond yr offeiriaid sy'n cael ei fwyta, ond cymerodd Dafydd beth, a'i roi i'w ddilynwyr hefyd.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Sut yr aeth i mewn i du375? Dduw a chymryd y torthau cysegredig a'u bwyta a'u rhoi i'r rhai oedd gydag ef, torthau nad yw'n gyfreithlon i neb eu bwyta ond yr offeiriaid yn unig?"
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Y modd yr aeth efe i Dŷ Dduw, ac a gymmerodd ac a fwytâodd y Torthau Gosod, ac a roddodd i'r rhai oedd gyd âg ef; y rhai nid ydyw gyfreithlawn eu bwyta ond i'r Offeiriaid yn unig.