Luke 6:41 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ phaam y gwely vrycheuyn yn llygat dy vrawt, a’r trawst y sy yn dy lygat dy hun nyd wyt yn ystyriet?
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A phaham yr edrychi ar y brycheuyn y sydd yn llygad dy frawd, ond y trawst y sydd yn dy lygad dy hun nad ystyri?
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A pham y sylwi ar y fflewyn sydd yn llygad dy frawd, ac nad ystyri’r trawst sydd yn dy lygad dy hun?
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A phaham yr wyt ti yn edrych ar y brycheuyn sydd yn llygad dy frawd, ac nad ydwyt yn ystyried y trawst sydd yn dy lygad dy hun?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Pam rwyt ti'n poeni am y sbecyn o flawd llif sydd yn llygad rhywun arall, pan mae trawst o bren yn sticio allan o dy lygad di dy hun!?
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Pam yr wyt yn edrych ar y brycheuyn sydd yn llygad dy gyfaill, a thithau heb sylwi ar y trawst sydd yn dy lygad dy hun?
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A phaham yr wyt yn edrych ar yr asglodyn yn llygad dy frawd, ac nad wyt yn darganfod y trawst yn dy lygad dy hun?