Luke 6:42 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ai pa vodd y gelly ddywedyt wrth dy vrawt, Y brawt, gad i mi dynu allan y brychaeyn ys id yn dy lygat, a’ thydy eb welet y trawst ys yd yn dy lygat vn? Hipocrit, bwrw allan, y trawst oth lygat dy hun yn gyntaf, ac yno y gwely yn amlwc, dynu allan y brychaeyn y sydd yn llygat dy vrawt.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Neu pa fodd y gelli ddywedyd wrth dy frawd, Fy mrawd, gad i mi fwrw allan y brycheuyn y sydd yn dy lygad, a thithau ni weli y trawst y sydd yn dy lygad dy hun? O ragrithiwr, bwrw allan, yn gyntaf, y trawst o’th lygad dy hun, ac yna y gweli yn eglur i fwrw allan y brycheuyn y sydd yn llygad dy frawd.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Pa fodd y medri ddywedyd wrth dy frawd, ‘Fy mrawd, gad i mi dynnu’r fflewyn sydd yn dy lygad,’ a thithau heb sylwi ar y trawst sydd yn dy lygad di? Y rhagrithiwr, tyn yn gyntaf y trawst o’th lygad, ac yna y gweli’n glir i dynnu’r fflewyn sydd yn llygad dy frawd.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Neu pa fodd y gelli di ddywedyd wrth dy frawd, Fy mrawd, gad i mi dynnu allan y brycheuyn sydd yn dy lygad, a thithau heb weled y trawst sydd yn dy lygad dy hun? O ragrithiwr, bwrw allan y trawst o'th lygad dy hun yn gyntaf, ac yna y gweli yn eglur dynnu allan y brycheuyn sydd yn llygad dy frawd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Sut alli di ddweud, ‘Gyfaill, gad i mi dynnu'r sbecyn yna sydd yn dy lygad di,’ pan wyt ti'n methu'n lân â gweld dim am fod trawst yn sticio allan o dy lygad dy hun? Rwyt ti mor ddauwynebog! Tynna'r trawst allan o dy lygad dy hun yn gyntaf, ac wedyn byddi'n gweld yn ddigon clir i dynnu'r sbecyn allan o lygad y person arall.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Sut y gelli ddweud wrth dy gyfaill, 'Gyfaill, gad imi dynnu allan y brycheuyn sydd yn dy lygad di', a thi dy hun heb weld y trawst sydd yn dy lygad di? Ragrithiwr, yn gyntaf tyn y trawst allan o'th lygad dy hun, ac yna fe weli yn ddigon eglur i dynnu'r brycheuyn sydd yn llygad dy gyfaill.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Pa fodd y gelli di ddywedyd wrth dy frawd, Frawd, gâd i mi fwrw allan yr asglodyn sydd yn dy lygad, a thithau dy hun heb edrych ar y trawst sydd yn dy lygad? O ragrithiwr, bwrw allan yn gyntaf y trawst o'th lygad dy hun, ac yna y gweli yn eglur fwrw allan yr asglodyn sydd yn llygad dy frawd.