Luke 6:44 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Can ys pop pren a adwaenir wrth ei ffrwyth y hun: can na d o yscall y casclant fficus, nac o ddyrys i y clascant ’rawnwin.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
canys pob pren wrth ei ffrwyth ei hun a adwaenir; canys nid oddiar ddrain y casglant ffigys, nac oddiar berth yr heliant rawnwin.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Canys pob pren a adweinir wrth ei ffrwyth ei hun; canys nid oddi ar ddrain y casglant ffigys, nac oddi ar lwyn mieri yr heliant rawnwin.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Oblegid pob pren a adwaenir wrth ei ffrwyth ei hun: canys nid oddi ar ddrain y casglant ffigys, nac oddi ar berth yr heliant rawnwin.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Y ffrwyth sy'n dangos sut goeden ydy hi. Dydy ffigys ddim yn tyfu ar ddrain, na grawnwin ar fieri.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Wrth ei ffrwyth ei hun y mae pob coeden yn cael ei hadnabod; nid oddi ar ddrain y mae casglu ffigys, ac nid oddi ar lwyni mieri y mae tynnu grawnwin.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Canys pob pren sydd yn cael ei adwaen wrth ei ffrwyth ei hun: canys nid oddiar ddrain y maent yn casglu ffigys, ac nid ar lwyn mïeri y maent yn casglu yr addfed swp o rawnwin.