Luke 6:45 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Y dyn da ymaes o dresawr da ei galon a ddwc allan dda, a ’r dyn drwc ymaes o dresawr drwc ei galon a ddwc allan drwc: can ys o gyflawnder y galon yr ymadrodd ei ’enae.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Y dyn da o drysor da ei galon, a ddwg allan yr hyn sydd dda; a’r dyn drwg o’r trysor drwg, a ddwg allan yr hyn sydd ddrwg; canys o orlawnder y galon y llefara ei enau ef.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Y dyn da o drysor da ei galon a gynhyrcha’r da, a’r drwg o’r drwg a gynhyrcha’r drwg; canys o orlawnder calon y llefara ei enau.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Y dyn da, o ddaionus drysor ei galon, a ddwg allan ddaioni; a'r dyn drwg, o ddrygionus drysor ei galon, a ddwg allan ddrygioni: canys o helaethrwydd y galon y mae ei enau yn llefaru.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Mae pobl dda yn gwneud y daioni sydd wedi ei storio yn eu calonnau, a phobl ddrwg yn gwneud y drygioni sydd wedi ei storio yn eu calonnau nhw. Mae beth mae pobl yn ei ddweud yn dangos beth sydd yn eu calonnau nhw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Y mae'r dyn da yn dwyn daioni o drysor daionus ei galon, a'r dyn drwg yn dwyn drygioni o'i ddrygioni; oherwydd yn l yr hyn sy'n llenwi ei galon y mae ei enau yn llefaru.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Y dyn da, allan o drysor da ei galon, a ddwg allan yr hyn sydd dda: a'r dyn drwg allan o'r drwg a ddwg allan yr hyn sydd ddrwg: canys allan o helaethrwydd calon y mae ei enau yn llefaru.