Luke 6:48 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Cyffelyp yw i ddyn a adailiadai duy, ac a gloddiai yn ðwfyn, ac a ’osodai y sail vaeniat ar graic: a’ phan ddaeth rhyferthwy, y curawdd y llif ddvvr ar y tuy, ac ny allei ei yscytwyt: o bleit ei sailiaw ar y graic.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
dangosaf i chwi i bwy y mae yn gyffelyb; cyffelyb yw i ddyn yn adeiladu tŷ, yr hwn a gloddiodd ac a aeth yn ddwfn, ac a osododd y sail ar y graig; a llifeiriant wedi digwydd, torrodd yr afon ar y tŷ hwnw, ac ni allai ei siglo o herwydd mai da yr adeilesid ef.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Tebyg yw i ddyn yn adeiladu tŷ; cloddiodd, ac aeth yn ddwfn, a gosododd sylfaen ar y graig; a phan ddaeth rhyferthwy, curodd y llifeiriant ar y tŷ hwnnw, ac ni allodd ei ysgwyd, gan mor dda yr adeiladesid ef.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Cyffelyb yw i ddyn yn adeiladu tŷ, yr hwn a gloddiodd, ac a aeth yn ddwfn, ac a osododd ei sail ar y graig: a phan ddaeth llifeiriant, y llifddyfroedd a gurodd ar y tŷ hwnnw, ac ni allai ei siglo; canys yr oedd wedi ei seilio ar y graig.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Maen nhw fel dyn sy'n mynd ati i adeiladu tŷ ac yn tyllu'n ddwfn i wneud yn siŵr fod y sylfeini ar graig solet. Pan ddaw llifogydd, a llif y dŵr yn taro yn erbyn y tŷ hwnnw, bydd yn sefyll am ei fod wedi ei adeiladu'n dda.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
y mae'n debyg i ddyn a adeiladodd du375? a chloddio'n ddwfn a gosod sylfaen ar y graig; a phan ddaeth llifogydd, ffrwydrodd yr afon yn erbyn y tu375? hwnnw, ond ni allodd ei syflyd, gan iddo gael ei adeiladu yn gadarn.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
cyffelyb yw i ddyn yn adeiladu tŷ, yr hwn a gloddiodd, ac a aeth yn ddwfn, ac a osododd ei sylfaen ar y graig: a phan ddaeth llifeiriant, y cenllif a dorodd yn erbyn y tŷ hwnw, ac ni allai ei siglo, am ei fod wedi ei adeiladu yn dda.