Luke 6:49 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Eithyr hwn a glyw ac ny wna, cyffelip yw i ddyn a adailiadai duy ar y ddaiar eb sail vain, ar yr hwn y curawdd y llif ddvvr, ac yn ehegr y syrthiawdd: a’ chwymp y tuy hwnw vu ddir vawr.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ond yr hwn a glyw, ac ni wna, cyffelyb yw i ddyn a adeiladodd dŷ ar y ddaear, heb sail, ar yr hwn y torrodd yr afon, ac yn uniawn y syrthiodd efe yn bentwr, ac yr oedd torriad y tŷ hwnw yn fawr.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ond y neb a wrendy ac ni wna, tebyg yw i ddyn a adeiladodd dŷ ar y ddaear heb sylfaen; curodd y llifeiriant arno, ac yn y fan cwympodd, a bu chwalfa’r tŷ hwnnw’n fawr.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ond yr hwn a wrendy, ac ni wna, cyffelyb yw i ddyn a adeiladai dŷ ar y ddaear, heb sail; ar yr hwn y curodd y llifddyfroedd, ac yn y fan y syrthiodd: a chwymp y tŷ hwnnw oedd fawr.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond mae'r rhai sy'n gwrando arna i heb wneud beth dw i'n ei ddweud yn debyg i ddyn sy'n adeiladu tŷ heb osod sylfaen gadarn iddo. Pan fydd llif y dŵr yn taro yn erbyn y tŷ hwnnw, bydd yn syrthio'n syth ac yn cael ei ddinistrio'n llwyr.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond y mae'r sawl sy'n clywed, ond heb wneud, yn debyg i rywun a adeiladodd du375? ar bridd, heb sylfaen; ffrwydrodd yr afon yn ei erbyn a chwalodd y tu375? hwnnw ar unwaith, a dirfawr fu ei gwymp."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ond yr hwn a wrendy, ac ni wna, sydd gyffelyb i ddyn yn adeiladu tŷ ar y ddaear heb sylfaen; yn erbyn yr hwn y torodd y cenllif, ac yn ebrwydd y syrthiodd i fewn; a'r niwed i'r tŷ hwnw oedd fawr.