Luke 6:7 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’r Gwyr‐llen a’r Pharisaieit oeddent yn y ’oarchad vv ef, a iachaei ef ar y dydd Savbath, yn y chaffent achwyn yn y erbyn ef.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A gwylied Ef a wnaeth yr ysgrifenyddion a’r Pharisheaid ai ar y Sabbath yr iachai Efe ef, fel y caffent beth i’w gyhuddo Ef.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
a gwyliai’r ysgrifenyddion a’r Phariseaid ef, a iachâi ef ar y Sabbath, fel y caffent ei gyhuddo.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r ysgrifenyddion a'r Phariseaid a'i gwyliasant ef, a iachâi efe ef ar y dydd Saboth; fel y caffent achwyn yn ei erbyn ef.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd y Phariseaid a'r arbenigwyr yn y Gyfraith yn ei wylio'n ofalus — oedd e'n mynd i iacháu'r dyn yma ar y Saboth? Roedden nhw'n edrych am unrhyw esgus i ddwyn cyhuddiad yn ei erbyn.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yr oedd yr ysgrifenyddion a'r Phariseaid 'u llygaid arno i weld a fyddai'n iachu ar y Saboth, er mwyn cael hyd i gyhuddiad yn ei erbyn.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A'r Ysgrifenyddion a'r Phariseaid a'i gwyliasant ef yn ddyfal, a iachâi efe ar y Sabbath, fel y caffent fodd i'w gyhuddo ef.