Luke 6:8 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Eithyr ef a wyddiat y meddyliae hwy, ac a ddyuot wrth y dyn oedd a’r llaw ddiffrwyth iddo, Cyuot, a saf i vyny yn y cenol. Ac ef a gyuodes i vynydd ac a safawdd.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac Efe a wybu eu hymresymmiadau; a dywedodd wrth y dyn oedd a’r llaw ddehau wedi gwywo, Cyfod, a saf yn y canol; ac wedi cyfodi o hono, safodd.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ond gwyddai ef eu meddyliau hwynt, a dywedodd wrth y dyn a oedd â’i law’n wywedig, “Cyfod, a saf yn y canol”; ac fe gyfododd, a safodd.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Eithr efe a wybu eu meddyliau hwynt, ac a ddywedodd wrth y dyn oedd â'r llaw wedi gwywo, Cyfod i fyny, a saf yn y canol. Ac efe a gyfododd i fyny, ac a safodd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond roedd Iesu'n gwybod beth oedd yn mynd trwy'u meddyliau nhw, a galwodd y dyn ato, “Tyrd yma i sefyll o flaen pawb.” Felly cododd ar ei draed a sefyll lle gallai pawb ei weld.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond yr oedd ef yn deall eu meddyliau, ac meddai wrth y dyn 'r llaw ddiffrwyth, "Cod a saf yn y canol"; a chododd yntau ar ei draed.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ond efe a wybu eu hymresymiadau hwy, ac a ddywedodd wrth y dyn oedd a'r llaw wedi gwywo, Cyfod, a saf yn y canol. Ac efe a gyfododd i fyny, ac a safodd.