Luke 6:9 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yno y dyuot yr Iesu wrthynt, Mi ’ovynaf ywch, ’orchest, Ai cyfreithlawn ar y dyddiae Sabbath gwneuthu da, ai gwneuthu drwc? cadw einioes, ai colli?
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A dywedodd yr Iesu wrthynt, Gofynaf i chwi, Ai cyfreithlawn ar y Sabbath wneuthur da, ynte gwneuthur drwg; cadw einioes, a’i colli?
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A dywedodd yr Iesu wrthynt, “Gofynnaf i chwi, a ddylid ar y Sabbath wneuthur da ai gwneuthur drwg, cadw einioes ai colli?”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yr Iesu am hynny a ddywedodd wrthynt, Myfi a ofynnaf i chwi, Beth sydd gyfreithlon ar y Sabothau? gwneuthur da, ynteu gwneuthur drwg? cadw einioes, ai colli?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Gadewch i mi ofyn i chi,” meddai Iesu wrth y rhai oedd eisiau ei gyhuddo, “beth mae'r Gyfraith yn ei ddweud sy'n iawn i'w wneud ar y dydd Saboth: pethau da neu bethau drwg? Achub bywyd neu ddinistrio bywyd?”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Meddai Iesu wrthynt, "Yr wyf yn gofyn i chwi, a yw'n gyfreithlon gwneud da ar y Saboth, ynteu gwneud drwg, achub bywyd, ynteu ei ddifetha?"
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A'r Iesu a ddywedodd wrthynt, Yr ydwyf finau yn gofyn i chwi, Os yw gyfreithlawn ar y Sabbath i wneuthur da, ynte gwneuthur drwg? cadw einioes, neu golli?