Luke 7:1 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
GWedy iðo dervynu ei oll ymadroddion yn clybod igaeth y popul, y ddaeth ef y Capernaum.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Pan orphenasai Ei holl ymadroddion ynghlyw y bobl, aeth i mewn i Caphernahwm.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Pan orffennodd ei holl ymadroddion yng nghlyw’r bobl, aeth i mewn i Gapernaum.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac wedi iddo orffen ei holl ymadroddion lle y clywai'r bobl, efe a aeth i mewn i Gapernaum.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ar ôl i Iesu orffen dweud hyn i gyd wrth y bobl, aeth i mewn i Capernaum.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Wedi iddo orffen llefaru'r holl eiriau hyn wrth y bobl, aeth i mewn i Gapernaum.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Yn gymaint ag iddo orphen ei holl ymadroddion yn nghlyw y Bobl, efe a aeth i mewn i Capernäum.