Luke 7:11 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac e ddarvu dranoeth, bot iddaw vynet i ddinas a elwit Naim a’ llawer o ei ddiscipulon aeth gyd ac ef, a’ thyrva vawr.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A bu, ar ol hyny, yr aeth i ddinas a elwid Nain; a myned gydag Ef yr oedd ei ddisgyblion a thyrfa fawr.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A digwyddodd yn union wedyn iddo fynd i ddinas a elwir Nain, ac yr oedd ei ddisgyblion a thyrfa fawr yn mynd gydag ef.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A bu drannoeth, iddo ef fyned i ddinas a elwid Nain; a chydag ef yr aeth llawer o'i ddisgyblion, a thyrfa fawr.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yn fuan wedyn, dyma Iesu'n mynd i dref o'r enw Nain. Roedd ei ddisgyblion a thyrfa fawr o bobl gydag e.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yn fuan wedyn aeth Iesu i dref a elwir Nain. Gydag ef ar y daith yr oedd ei ddisgyblion a thyrfa fawr.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A bu yn fuan ar ol hyn iddo fyned i ddinas a elwid Nain, a'i Ddysgyblion a aethant gyd âg ef, a thyrfa fawr.