Luke 7:12 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ gwedy iddaw ddawot yn agos at porth y dinas, a’ nycha, y ducit allan vn marw ’sef vn‐map mam, yr hon oedd weddw, a’ llawer o popul y dinas oedd gyd a hi.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A phan nesaodd at borth y ddinas, wele, dygid allan un marw, mab unig-anedig ei fam, a hithau oedd weddw; a thyrfa fawr o’r ddinas oedd gyda hi.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A phan ddaeth yn agos at borth y ddinas, dyma gludo allan un marw, unig fab ei fam, a honno’n weddw; ac yr oedd cryn dorf o’r ddinas gyda hi.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A phan ddaeth efe yn agos at borth y ddinas, wele, un marw a ddygid allan, yr hwn oedd unig fab ei fam, a honno yn weddw: a bagad o bobl y ddinas oedd gyda hi.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Pan oedd ar fin cyrraedd giât y dref roedd pobl mewn angladd ar y ffordd allan. Bachgen ifanc oedd wedi marw — unig fab rhyw wraig weddw. Roedd tyrfa fawr o bobl y dre yn yr angladd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Pan gyrhaeddodd yn agos at borth y dref, dyma gynhebrwng yn dod allan; unig fab ei fam oedd y marw, a hithau'n wraig weddw. Yr oedd tyrfa niferus o'r dref gyda hi.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A phan ddaeth efe yn agos i borth y Ddinas, wele un marw a ddygid allan, unig‐anedig fab i'w fam, a hithau yn weddw; a thyrfa lawer o'r Ddinas oedd gyd â hi.