Luke 7:14 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac ef aeth yn nes ac gyvyrddawdd a’r elawr (a’r ei oedd yn ei ddwyn, a safesont) ac ef a ddyvot, Y gvvas ievanc, wrthyt y dywedaf, Cyvot.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A daeth at, a chyffyrddodd â’r elor; a’r rhai yn ei dwyn, a safasant: a dywedodd, Ieuangc, wrthyt y dywedaf, Cyfod.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A chan nesáu, cyffyrddodd â’r elor; a safodd y cludwyr, ac eb ef, “Y llanc, dywedaf wrthyt, cyfod.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A phan ddaeth atynt, efe a gyffyrddodd â'r elor: a'r rhai oedd yn ei dwyn, a safasant. Ac efe a ddywedodd, Y mab ieuanc, yr wyf yn dywedyd wrthyt, Cyfod.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yna gwnaeth rywbeth cwbl annisgwyl — cyffwrdd yr arch! Dyma'r rhai oedd yn ei chario yn sefyll yn stond. “Fachgen ifanc,” meddai Iesu, “dw i'n dweud wrthot ti am godi!”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yna aeth ymlaen a chyffwrdd 'r elor. Safodd y cludwyr, ac meddai ef, "Fy machgen, rwy'n dweud wrthyt, cod."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac efe a ddaeth yn mlaen, ac a gyffyrddodd a'r arch: a'r cludwyr a safasant: ac efe a ddywedodd, Ddyn ieuanc, yr wyf yn dywedyd i ti, Cyfod.