Luke 7:15 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ hwnn a vysei varw, a godes yn ei eistedd, ac a ddechreuodd ddywedyt, ac ef ei rhoddes yw vam.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A chododd y marw yn ei eistedd, a dechreuodd lefaru; a rhoddes Efe ef i’w fam.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A chododd y marw ar ei eistedd, a dechreuodd siarad; ac fe’i rhoes i’w fam.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r marw a gyfododd yn ei eistedd, ac a ddechreuodd lefaru. Ac efe a'i rhoddes i'w fam.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
A dyma'r bachgen oedd wedi marw yn codi ar ei eistedd a dechrau siarad. A dyma Iesu'n ei roi yn ôl i'w fam.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Cododd y marw ar ei eistedd a dechrau siarad, a rhoes Iesu ef i'w fam.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A'r marw a eisteddodd i fyny, ac a ddechreuodd lefaru: ac efe a'i rhoddodd ef i'w fam.